Sgwrsio am Brifysgol

Sgwrsio am Brifysgol

University Ready

Wyt ti’n meddwl tybed a yw'r brifysgol yn iawn i ti? Gwranda ar fyfyrwyr prifysgol sy'n astudio ledled Cymru ar hyn o bryd wrth iddyn nhw rannu eu profiadau.Byddwn yn trafod beth yw bywyd prifysgol, gan gynnwys y broses ymgeisio, rheoli arian, astudiaeth academaidd, ac addasu i fywyd myfyriwr.Mae'r gyfres hon yn rhan o Barod ar gyfer Prifysgol, sef casgliad o adnoddau rhad ac am ddim sy'n cefnogi dysgwyr i ddechrau ar eu taith i addysg uwch.Gelli di ddarganfod mwy wrth fynd i openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol. Mae gennym ni hefyd gyfres Saesneg ‘Let’s talk about Uni’ a...

A alla’ i gymryd y naid i astudiaeth academaidd uwch?

A alla’ i gymryd y naid i astudiaeth academaidd uwch?

Ydych chi’n poeni am yr heriau o astudio yn y brifysgol? Sut beth yw astudiaeth addysg uwch mewn gwirionedd?Yn y bennod hon rydym yn mynd i’r afael â bywyd academaidd yn y brifysgol. Cawn glywed am brofiadau gwirioneddol myfyrwyr, ffyrdd newydd o astudio, rheoli amser, astudio trwy gyfrwng y Gymaeg, yr her o ddelio ag aseiniadau ac arholiadau - ac yn bwysicach na dim, y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael pan fo’i hangen.openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol

Aug 7, 2023 • 39:42

A alla’ i fforddio mynd i’r brifysgol?

A alla’ i fforddio mynd i’r brifysgol?

Ydych chi’n poeni am y gost o fynd i’r brifysgol? A yw’n swnio fel breuddwyd anghyraeddadwy? A fydd wirioneddol yn werth chweil yn y tymor hir - yn enwedig gan mai’r unig beth mae pawb i weld yn sôn amdano’r dyddiau hyn yw dyled myfyrwyr?Yn y bennod hon rydym yn mynd i’r afael ag arian yn uniongyrchol. Rydym yn trafod cyllidebu, rheoli eich arian a byw’n annibynnol, yn ogystal â Chyllid Myfyrwyr a ffyrdd ymarferol o gydbwyso swydd wrth astudio. openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol

Aug 7, 2023 • 41:40

Fydda i’n ffitio i fywyd myfyriwr?

Fydda i’n ffitio i fywyd myfyriwr?

Mae bywyd prifysgol yn fwrlwm o brofiadau newydd - sy’n gyffrous ond hefyd yn frawychus. Ydych chi’n poeni ynghylch cwrdd â phobl newydd neu lle fyddwch yn byw? Yn y bennod hon rydym yn sgwrsio’n onest ynglŷn â’r agweddau cymdeithasol ar fywyd prifysgol - profiad y glas, gwneud ffrindiau, byw oddi cartref - neu’n wir, aros gartref.Nid ymwneud ag astudio yn unig mae bywyd prifysgol – rydym yn rhannu ychydig o awgrymiadau ac yn chwalu rhai o’r mythau sydd ynghlwm â phrofiad cymdeithasol y myfyriw

Aug 7, 2023 • 32:35

Sut mae mynd drwy’r broses ymgeisio?

Sut mae mynd drwy’r broses ymgeisio?

Felly rydych wedi penderfynu mynd amdani - a nawr mae’n amser gwneud cais! Sut ydych chi’n penderfynu lle a beth i astudio, a dewis y cwrs perffaith i chi? A lle dylech chi ddechrau gyda’ch Datganiad Personol?Yn y bennod hon rydym yn eich arwain drwy’r broses ymgeisio, cam wrth gam, ac yn rhannu profiadau bywyd go iawn o’r broses ymgeisio, o Ffeiriau UCAS a Diwrnodau Agored, i benderfynu astudio try gyfrwng y Gymraeg, i lunio dewisiadau pendant a mynd drwy’r system Glirio. openlearn.com/barod-ar

Aug 7, 2023 • 32:45

A yw’r brifysgol yn addas i mi?

A yw’r brifysgol yn addas i mi?

Mae pawb yn dweud mai’r brifysgol yw’r prif nod academaidd, un a fydd yn eich arwain yn y pen draw at yrfa a chyfleoedd bywyd llawer gwell - ond ai dyma’r opsiwn gorau i chi? A yw’n teimlo’n rhy frawychus, dychrynllyd, llethol, anodd, drud - ac a fyddai’n werth yr holl straen a gwaith beth bynnag? Mae cymaint o bethau i’w hystyried y dyddiau hyn cyn penderfynu a yw bywyd prifysgol yn addas i chi. Yn y bennod gyntaf hon rydym yn trafod ystod o faterion a fydd efallai’n eich helpu chi i wneud y

Aug 7, 2023 • 36:13

Dyma Sgwrsio am Brifysgol

Dyma Sgwrsio am Brifysgol

Wyt ti’n meddwl tybed a yw'r brifysgol yn iawn i ti? Gwranda ar fyfyrwyr prifysgol sy'n astudio ledled Cymru ar hyn o bryd wrth iddyn nhw rannu eu profiadau.Byddwn yn trafod beth yw bywyd prifysgol, gan gynnwys y broses ymgeisio, rheoli arian, astudiaeth academaidd, ac addasu i fywyd myfyriwr.Mae'r gyfres hon yn rhan o Barod ar gyfer Prifysgol, sef casgliad o adnoddau rhad ac am ddim sy'n cefnogi dysgwyr i ddechrau ar eu taith i addysg uwch.Gelli di ddarganfod mwy wrth fynd i openlearn.com/barod

Aug 4, 2023 • 2:05

Switch to the Fountain App