Siarad Siop efo Mari a Meilir
Mari Beard and Meilir Rhys Williams
Podlediad sgyrsiol, arobryn // Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023
Pennod 21 - NADOLIG LLAWEN
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda gwsmeriaid annwyl y siop. Mae hi di bod yn flwyddyn anhygoel o drafod, sgwrsio, hel straeon a mwydro a da ni mor ddiolchgar i chi gyd am wrando. Peidiwch a phoeni - nid ffarwel yw hwn, dim ond nodyn o werthfawrogiad wrth gyflwyno pennod olaf y gyfres eleni i chi. Ond mae ganddom ni newyddion cyffrosu i'w rannu gyda chi - felly i mewn i chi i'r siop ar unwaith!
Pennod 20
Sori, fedrwch chi ddim eistedd fama...Da ni'n dal y gwagle i eiriau 'Defying Gravity'. Yndi, ma Wiza-mania wedi cyrraedd Siarad Siop, ond peidiwch a phoeni os nad ydych chi wedi gwylio'r ffilm eto, does yna ddim spoilers yn y bennod. Mae Mari a Meilir hefyd yn cofio at bawb sydd wedi eu heffeithio gan storm Bert, yn trafod sengl newydd Cabarela, Daf James a BAFTA, Bluey Cymraeg a llawer mwy...! Dewch i mewn i gysgodi a mwynhewch.
Pennod 18
Waw, am wythnos yr ydyn ni di gael. Dydi Mari a Meilir jesd methu cau'r siop, mae yna ormod i'w drafod! Yr etholiad yn yr UDA, Nicole Scherzinger, mab Gary Barlow, cyfres newydd White Lotus, sioe Theatr Bara Caws, llyfe 'Sgen I'm Syniad', patches moel Mari, brech y ffliw a covid, Wicked, Gladiator 2 a llawer mwy. Steddwch, swatiwch a mwynhewch.
Pennod 19
Ydyn ni'n cael dweud y gair eto.... MAE DOLIG AR EI FFORDD ac mae Mari a Meilir wedi dechrau edrych ymlaen yn barod. Yn y bennod hon, mae'r ddau yn trafod hoff anrhegion Nadolig, hoff siocled yr Ŵyl, aliens yr UDA, y mass exodus o Twitter gynt, cadarnhau enw swyddogol Parc Cenedlaethol Eryri a'r Wyddfa, clwb nos Heaven yn Llundain, heb anghofio'r eira! Dewch i mewn o'r oerfel a mwynhewch.
Pennod 18
Waw, am wythnos yr ydyn ni di gael. Dydi Mari a Meilir jesd methu cau'r siop, mae yna ormod i'w drafod! Yr etholiad yn yr UDA, Nicole Scherzinger, mab Gary Barlow, cyfres newydd White Lotus, sioe Theatr Bara Caws, llyfe 'Sgen I'm Syniad', patches moel Mari, brech y ffliw a covid, Wicked, Gladiator 2 a llawer mwy. Steddwch, swatiwch a mwynhewch.
Pennod 17
Wel, wel - cymaint i'w drafod yr wythnos yma. Yn bennaf, yr etholiad ar draws yr Iwerydd. Heb sôn am ein hoff raglenni teledu, aelod newydd i'r teulu Beard, noson tân gwyllt, Terry's chocolate orange a llawer mwy! Croeso i'r siop siarad.*Nodyn: Cafodd y bennod hon ei recordio ar noswyl yr etholiad cyn i'r Arlywydd newydd gael ei ddatgan.
Pennod 16
Calan Gaeaf hapus i chi! Ar ôl wythnos i ffwrdd, mae'r siop yn orlawn o sgyrsiau di-ri - o barti gwylio Rupaul's Dragrace Actavia yn Bala, rhoi sudd pickle mewn Diet Coke, supplements madarch, pwy sy'n rhedeg cyfrif Huns Cymru, giggles yn gwaith a llawer mwy. Dewch i mewn...os meiddiwch chi. Mwahahaha!T.W. Mae trafodaeth fer am hunan-laddiad yn y bennod hon.
Pennod 15
Wythnos arall, pennod llawn dop arall. Da ni'n trafod aduniad ysgol Meilir, cyfresi podlediadau da, buddugoliaeth Lost Boys and Fairies yn yr Attitude Awards, y drama ar Strictly, Rupaul's Dragrace a llawer mwy. Mwynewch!
Pennod 14
Wel, da ni'n "cooking on gas" rwan gyfeillion a dyma bennod orlawn arall o hanesion, argymhellion, cwynion a chynigion. O ddigwyddiadau'r wythnos, rhaglenni newydd S4C, llyfrau newydd, ymweliad Mari â Llanuwchllyn, dychweliad Big Brother a stormydd trofannol. Dyna ddigon o restru, amser gwrando.
Pennod 13
Gwenwch, mae'n ddydd Gwener! Mae cymaint i'w drafod yr wythnos yma, dyma bennod gynnar i chi. Yn cael sylw'r bennod yma mae sioe Olion gan Gwmni Fran Wen, British Podcast Awards, The Deliverance, Adam Brody yn Nobody Wants This, Beyonce a Jay Z, Dame Maggie Smith, Maggi Noggi ac wrth gwrs, eich cynigion chi, y gwrandawyr. Mwynewch!
Pennod 12
O, ma hi'n braf bod nol a diolch i chi am ddychwelyd atom ni! Dydi Mari a Meilir yn sicr ddim wedi anghofio siarad siop, fel y clywch chi'r bennod yma. Mae na sgwrs am atgyweirio tai, P.Diddy, Kaos, hoff 'meal deals', Cabarela, dwyn enwau podlediadau (wps), Olivia Attwood's Bad Boyfriends, Agatha All Along, albwm Lady Gaga a llawer, llawer mwy (coeliwch neu beidio). Dewch i mewn, os meiddiwch chi...
Pennod 11
Da ni nol! Ar ôl haf prysur, mae'r siop ar agor unwaith eto ac mae yna lond silffoedd o hanesion ar eich cyfer chi. O fabi newydd Mari, Meilir yn gwylio Adele a rhyw fedal ddramatig ar y naw... Pam da chi'n aros, dewch i mewn!
Pennod 10
Dyma "welai di wap" yn hytrach na "hwyl fawr am byth"! Cyn i Mari fynd i gyflawni gwyrth y geni, roedd rhaid recordio un bennod fach arall i'ch cadw chi'n 'stocked up' tan tro nesa. Mae na ddigon yn y sgwrs yma i'ch cadw chi'n ddiddyg am dipyn - Chappell Roan, Glastonbury, Shania Twain, Celine Dion, Arabic Flavours Aber, Pride Caerdydd, triongl cariad Ayame a Yuval, stori gywilyddus arall gan Meilir a mwy...! Dewch i mewn am y tro olaf (am nawr) a llenwch eich basgedi.
Siarad Siop - Pennod 9
Shwmai! Peth da ein bod ni wedi aros noson ychwanegol cyn recordio, er mwyn gallu trafod y be ddigwyddodd yn Stadiwm y Principality neithiwr! Yn ogystal â'r newyddion gwych am Catty a Stevie Nicks, House of the Dragon yng Nghymru, Justin Timberlake yn cael ei arrestio, caneuon catchy Sabrina Carpenter a holl gwestiynnau'r gwrandawyr! Dewch i mewn, mae'r siop ar agor.
Siarad Siop - Pennod 8
Mae hi'n oer tu allan felly dewch i mewn i gadw'n gynnes. Mae yna ddigon o newyddion tanboeth i'n cadw ni i fynd nes daw'r haf. O gyngherddau Taylor Swift, Troye Sivan a Pink, datblygiadau AI Meta ac Apple i gyfres deledu newydd Sian Eleri. Swatiwch, gwrandewch a mwynhewch!
Siarad Siop - Pennod 7
Mae'n sgyrsiau ni yn dod â phawb i'r iard...ac mae na lot i'w drafod yr wythnos hon. Lost Boys and Fairies, mis Pride, Eisteddfod yr Urdd, talfyriadau, dadleuon gwleidyddol, triongl cariad Tik Tok... Ydyn ni 'di anghofio rhywbeth? Dewch i mewn, mae'r siop ar agor!
Pennod 6
Wel, am wythnos lawn dop! Digon i lenwi siop o siarad. Yr etholiad cyffredinol, albwm newydd Eden, Eisteddfod yr Urdd, Kelly Rowland yn Cannes, arrestio Nicki Minaj, Gypsy Rose a Kim K, llwyddiant Catrin Feelings a mwy...coeliwch neu beidio!
Siarad Siop - Pennod 5
Llond trol o straeon yr wythnos yma, bois bach! O linach Cymraeg Dolly Parton, rhaghysbyseb Wicked, araith seremoni raddio Harrison Butker, canlyniad yr ymchwiliad i'r sgandal gwaed ac actorion cwiar ar gyfer rhannau cwiar. Dewch i mewn, mae'r siop ar agor!
Siarad Siop - Pennod 4
Rhwng drama yr Eurovision, y celebrity block list a'r cyfweliad na rhwng Piers a Fiona, mae Mari a Meilir fel dwy felin bupur yn yr wythnos yma. Heb sôn am rhyw ymddangosiad bach ar y teli bocs nos Lun. Dewch i mewn, mae'r siop ar agor!
Siarad Siop - Pennod 3
Cymaint o newyddion i'w drafod yr wythnos yma gan gynnwys y MetGala, cyhoeddiad Y Llais ar S4C, ymgyrch Sara Davies a Coco & Cwtsh i gael Cymru i Eurovision, canlyniad yr etholiadau lleol a llysnafedd malwod... Dewch i mewn! Mae'r siop ar agor.
Siarad Siop - Pennod 2
Da ni'n mynd rownd y byd heno wrth drafod bob dim o Jojo Siwa i Janet, llais yr isymwybod... Mi wnewch chi ddeall pan glywch chi'r sgwrs. Mae'n amser agor y siop!
Siarad Siop - Pennod 1
Doedden ni methu sdopio siarad, RuPaul's Dragrace neu beidio...felly dyma gangen o'n podlediad lle NAD OES rhaid i chi fod yn dilyn y gyfres i ymuno yn yr hwyl. Mae Siarad Siop yn ychwanegiad bach i'n cymuned Cwîns lle fyddwn ni'n trafod materion cymdeithasol a hel straeon o wythnos i wythnos (diwylliant pop yn bennaf). Croeso i'r teulu, Cwîns. Mae'r siop nawr ar agor...
Y Ffeinal...o'r diwedd!
Hir yw pob aros ond dyma ni'r bennod olaf o'r gyfres! Er nad oedd yr enillydd yn sioc, roedd na gymaint i'w fwynhau (a'i feirniadu) yn y bennod. Diolch i chi gyd am wrando, am gefnogi ac am gyfrannu at y sgwrs. Da ni wir yn gwerthfawrogi. Felly am y tro, mwynewch!
Mwy o gyw iâr amrwd na rhôst
Diolch byth am ddoniau stand-up Hannah a Tia neu mi fyse'r bennod yma wedi bod yn siom enfawr. Ydi tasg stand-up yn deg pan nid Saesneg yw mamiaith hanner y Cwîns? Ddylse'r dair Cwîn fod wedi bod yn y gwaelod? Gewch chi glywed beth oedd gan Mari a Meilir i'w ddweud nawr!
Rhyddhewch ni...o'r dasg yma
Sawl tasg wael arall sydd rhaid i ni ddioddef? Fyse chi wedi rhoi "seveeen" i'r bennod yma? Er gwaetha'r diffyg cynnwys, dydi hynny ddim wedi rhoi taw ar drafod Mari a Meilir.
Amser Gothy i gymryd ei bow
Roedd y bennod ddiweddaraf yn llawn tasgau amheus - o 'reading challenge' ddi-fflach i sioe gerdd heb sioe. A wnaeth Gothy aros wythnos yn ormod? Ydi cangen 'UK vs The World' yn cael llai o ofal na changhenau arall y gyfres? Mae gan Mari a Meilir ddigon i'w ddweud ar y mater.
Pwy sydd am ddweud wrth Jane?
Mae hi'n amser snatchgame unwaith eto! Oedd hi'n un llwyddiannus? Wnaeth Jane McDonald a Sinitta lwyddo i achub y llong rhag suddo? Pa wisg gipiodd y fflag, ac a oedd Ru yn rhy galed ar Gothy? Pwyswch play ac fe gewch chi glywed adolygiad Mari a Meilir a llawer llawer mwy.
Be ydi dy brand di?
Ar ôl pennod ychydig fwy rhwystredig, mae Mari a Meilir yn ceisio darganfod be yn union oedd y dasg yr wythnos hon. Doedd y Cwîns fawr callach chwaith! Oeddech chi'n cytuno efo dewis y ddwy Cwîn fuddugol? Beth fyddech chi wedi ei ddewis? Cliciwch 'play' i ymuno yn y drafodaeth nawr.
Fe gei di fynd i'r 'ball'!
Tri chynnig i'r Cwîns! Da ni'n cael ein diffethaf yr wythnos hon efo nid un, nid dau ond tri categori ar y runway. Pwy drödd o froga yn dywysog, pwy frathodd yr afal a phwy gafodd eu 'hapus am byth bythoedd'? Wel, pwyswch play ac mi gewch chi glywed y cyfan gan Mari a Meilir nawr.
Wnaethoch chi golli ni?
Da ni methu cadw draw ac mi rydyn ni nol yn gorlifo efo brwdfrydedd a chynwrf am ail gyfres RuPaul's Dragrace UK vs The World. Mae hon yn bennod arbennig, ychydig hirach gan ei bod yn ddechrau cyfres a chymaint i'w drafod! O, mae hi'n braf bod nol.
Y Goron
Mae'r amser wedi dod i goroni brenhines cyfres 5 o RuPaul's Dragrace UK a da ni'n barod amdani... Ychydig yn hwyrach na'r arfer, ond da ni'n mwydro ddigon i'w gwneud hi'n un werth aros amdani. Ar eich marciau, barod...EWCH!
Rhôst tanboeth y Cwîns
Mae Mari a Meilir yn gytun (am unwaith) mai hon yw pennod orau cyfres 5 hyd yma, ac am bennod yw hi hefyd! Pob cwîn yn llwyddo yn y sialens, llond lle o jôcs da, drama yn y Werkroom a lewks ar y runway yn deilwng o fod yn Fashion Week.
Mae teulu'n bwysig!
Pwy sydd ddim yn hoff o'r sialens drawsnewid? Troeon cynta mewn sodlau, wigs a cholur a llwyth o straeon twym-galon. Hefyd, mae yna westai arbennig ar y podlediad yr wythnos yma sy'n coroni'r cyfan. Beth sydd ddim i'w hoffi? Wel, dipyn go lew o bethau yn ôl Mari a Meilir.
Am opera sebon!
Roedd na ddigon o ddrama o fewn y dasg a'r bennod yr wythnos hon i gadw Mari a Meilir yn sgwrsio, chwerthin, dadlau a dadansoddi am dros awr. Mae na drafod ffafriaeth, pyjamas a chamelod..! Be well?
Ma'r Snatch Game wedi cyrraedd!
Y bennod mae PAWB yn edrych ymlaen amdani. Y dasg sy'n gwthio'r Cwîns i'r eithaf. Ond pa gymeriad oedd eich hoff un chi? Oedd Mrs Doubtfire yn gweithio efo acen o'r 'deep south'? Ddylie Lady C fod wedi gadael y jwngwl? Mari a Meilir sydd wedi bod yn trafod unwaith yn rhagor, gyda digon o caclo bob hyn a hyn.
Ma' hi tu ôl i ti!
Mae Calan Gaeaf BRON ar ben felly mae hi'n saff i ni ddweud y gair na. Nadolig! A phwy sydd ddim yn hoff o bantomeim dros gyfnod yr Ŵyl? Ond sgwn i beth oedd barn Mari a Meilir o 'Pant-Oh She Better Don't'? Oedden nhw'n gwgu neu'n dathlu wrth weld y gwisgoedd ar y runway?
Cwymp y Cwîns Buddugol
Yn y bennod fwya dramatig o'r gyfres hyd yma, ar ochr pwy ydych chi? Wrth i'r dair cwîn sydd eisoes wedi ennill ddisgyn i'r gwaelod, mae'r tensiwn yn tasgu rhwng Banksie, Cara Melle a Vicky Vivacious.
Oes gen ti "ick"?
Yn y bennod yma, mae'r dasg grwp pop yn codi nifer o atgofion i Mari a Meilir. Y platforms, y posters a'r girl power! Ond pa grwp roddod yr "ick" i "yum" y ddau? 'Sgwn i pa cwîn ddeniadol sydd wedi rhoi dipyn o benbleth i Meilir, a beth sy'n achosi i'r ddau ddweud "weithiau ni'n cytuno a weithiau ni ddim" am y tro cyntaf y gyfres yma?
Gwin..Sori, Cwîns efo Mari a Meilir
Mae'r drincs yn llifo bron cymaint a barn Mari a Meilir. Mae yna hen ddigon i'w ddweud am wisgoedd amrywiol y Cwîns, ffrae Tomara a Cara, y gwestai Yasmin Finney...a sgwrs sydyn am atgyfodiad Big Brother!
Dechrau'r râs i cwîns cyfres 5
Mae Rupaul's Dragrace UK yn ei ôl... sy'n golygu ein bod ni nol! Da ni methu aros i ddod i adnabod y criw newydd yma o CWÎNS.
BONWS British Podcast Awards
Pennod fach fer yn sôn am bob dim British Podcast Awards. Mi wnawn ni gau'n cegau am y digwyddiad ar ôl hwn, GADDO!
Coroni Cwîn Cyfres Pedwar!
Da ni wedi cyrraedd y ffeinal - ac am ffeinal oedd hi hefyd. Gwisgoedd, aduniadau, dagrau, megamix a'r lipsync i guro POB lipsync. Gwisgwch eich gwregys, mae hi'n dipyn o rollercaster!
Da ni bron dros y linell derfyn!
O ystyried ei bod hi'n bennod gyn-derfynol, doedd na fawr o dân yn yr her gomedi yma yn anffodus. Yng ngeiriau'r anfarwol Trinity the Tuck, "where are the jokes?" Ond roedd na well siap ar y runway wrth i'r cwîns arddangos eu giwsgoedd punk fwyaf pwreus. Ydych chi'n hapus efo'r bedair sydd yn mynd i'r ffeinal?
Mae Mama Ru yn ei hôl!
Er mor braf oedd gweld Mother Ru yn ôl yn ei sedd, doedd hynny dal ddim yn ddigon i dynnu sylw oddi wrth y sgript ofnadwy ar gyfer y dasg yr wythnos yma. Llanast llwyr! Ydi'r cwîns eraill yn dechrau cornelu Jonbers? Oedd Pixie wir yn crïo? Ydych chi'n cytuno efo canlyniad y lipsync? Oedd y looks yna'n anhygoel? 'Sgwn i os ydych chi'n cytuno efo Mari neu Meilir...?
Dirgelwch diflaniad Rupaul!
Ble'r aeth y Cwîn RuPaul ei hun? Pwy ddewisodd y gân lipsync yna? A ddyliai Boy George fod ar y panel beirniadu? Rhain yw rhai o'r cwestiynnau mae Mari a Meilir yn YSU i'w trafod yr wythnos yma. Sgwn i os fyddwch chi'n cytuno efo barn Meilir neu Mari am y Cwîn fuddugol yr wythnos yma? Wel, i ffwrdd a chi!
Calan Gaeaf Cwîns
Gan ei bod hi'n Galan Gaeaf, dyma ddarn ychwanegol gafodd ei dorri o'r bennod ddiwethaf i chi ei fwynhau tra'n cerfio eich pwmpen neu'n paratoi eich hysgyb. Mwahahaha!
Dyma hi! YYYY Snatchgame!
Ma'n gwallt ni di gwynnu ar ôl y Snatchgame yna! Diolch byth bod Cwîn Elizabeth y Cyntaf yn eu plith nhw i achub y llong. Ydi Pixie rhy hunan-dosturiol? Pwy enillodd y lipstink? Nath Danny gynllwynio i newid ei gymeriad? Be sy di hollti barn Mari a Meilir? Wel, cliciwch play a gwrandewch.
Pennod orau RPDR UK erioed?
Ma'r bennod yma o Cwîns yn jam packed ac yn fwy amrywiol na paced o Rowntree's Randoms. O Liz Truss i Jane McDonald, o lipsync legendary i ymadawiad ysgytwol ac o sioeau radio i sioeau cerdd. Barod amdani? AWÊ!
Gwell hwyr na hwyrach!
Moelni, mwng, Michelle Visage, ymddiheuriad i T. H. Parry Williams, Hocus Pocus 2... Ma na dipyn bach o bob dim yn y bennod yma. Gan gynnwys y twerk exit fwyaf eiconig erioed. Mwynhewch!
Be ddigwyddodd i'r bingo?
Da ni wir yn cael dod i nabod y cwins bellach ac mae ganddo ni ein ffefrynnau hyd yma. Be oeddech chi'n feddwl o'r sialens yma? Oes na ffasiwn beth a high fashion mewn bingo hall? Faint ohono chi sy di ffeindio cariad ar app? Hyn i gyd ar y bennod yma o Cwins!
Ew, mai'n mynd yn dda yma!
Ma rhaid dweud - ma cwîns y gyfres yma wir wedi'n cyffroi ni a wnaeth pennod 2 ddim siomi. Be sy'n cyfri fel neon? Less is more? Be ma'r beirniaid ma isho? Pwy di Cathy Dennis? Dyma grafu'r wyneb ar rai o gwestiynnau da ni'n eu trafod yn y bennod yma. Oes gennych chi ffefryn hyd yma?
Haleliwia, da ni nol!
Da ni mor falch fod y gyfres yn ei hôl yn dilyn holl ddigywddiadau'r haf. Da ni'n dechrau cyfres 3 o'n podlediad efo pennod hirach na'r arfer gan fod CYMAINT i'w drafod. Ma hi'n braf bod nol!
Enillydd DU vs Y Byd yw...
Da ni wedi cyrraedd y ffeinal ac mae'n gyfle i ni adlweyrchu ar gyfres arall o Rupaul's Dragrace. Cytuno neu beidio, mae Ru wedi dewis 'Brenhines y Byd' gyntaf y gyfres ac mae gan Mari a Meilir ddigonedd i'w ddweud am y mater.
Y bennod gyn-derfynol!
Yn y bennod yma, mae'r cwîns yn cwffio am y cyfle i gael canu cân efo Rupaul...drwy ganu cân efo Rupaul! Pwy fydd y bedair wnaiff oroesi i'r ffeinal?! A be ydi diffiniad 'Darn o Gelf'...?
Brad lipstick Blu
Rhaid dweud mai hon oedd un o benodau fwyaf dramatig a chofiadwy o Dragrace ers amser maith. Mae ymateb y ffans wedi adlewyrchu hynny ac mae'r dadlau rhwng Mari a Meilir yr un mor danllyd. A wnaeth Blu y peth iawn? Ydych chi'n cytuno hefo'r fformat 'Allstars'?
Ail gynnig ar bennod 3!
Ar ôl anffawd technegol, da ni o'r diwedd wedi llwyddo i ail-recordio ein adolygiad o bennod 3. Llond llwyfan o Westend Wendys a gwisgoedd smotiog, heb sôn am yr elimination controversial arall na!
Y categori yw...
Pwy sydd ddim yn hoff o 'ball'? Yn enwedig pan mae na 3 chategori. Wel, dim Baga Chipz yn ôl pob golwg! A be am ddewis dadleuol Ru o'r ddwy cwîn yn y safle gwaelod yr wythnos yma? Cliciwch 'play' ac mi gewch chi wybod yn union be da ni'n feddwl.
O bedwar ban byd!
Mae'r cwins rhyngwladol wedi cyrraedd a dydi Ru ddim am roi eiliad iddyn nhw orffwys wrth ofyn iddyn nhw gyflwyno eu talentau mewn sioe arbennig. Efallai bod ambell un wedi llwyddo yn well na'i gilydd... Gwrandewch i glywed pwy oedd ffefryn pennod 1 Mari a Meilir.
Cwîns yn erbyn y byd...
A oes heddwch? No chance. Cyfres arall y Dragrace ar y BBC yn golygu un peth...CYFRES ARALL O CWINS! A ma hi mor braf bod nol. Yn y bennod yma, da ni'n trafod y line-up o frenhinesau byd-enwog sydd am gystadlu ar gyfer coron Brenhines y Byd. Mwynhewch!
Ac enillydd y drydedd gyfres yw...
Wel, ma rhaid bod yn onest, doedd Mari na Meilir wedi rhagweld y byddai'r bennod olaf yn gorffen fel hyn. Da chi'n cytuno efo pwy wnaeth Rupaul ddewis fel enillydd? Gan fod cymaint i'w drafod am y ffeinal, dyma bennod arbennig ychydig hirach na'r arfer i ddathlu diwedd y gyfres gyntaf o Cwîns. Mwynhewch a diolch am wrando, Cwîns!
Pwy sydd am fynd i'r ffeinal?
Da ni wedi cyrraedd y bennod gyn-derfynol o gyfres 3 ac mae'n amser i'r cwîns ddangos eu doniau 'stand-up'. Pwy oedd y gorau? Oedd rhagdybiaethau Mari a Meilir am y dair cwîn derfynol yn gywir? A'r limpstink (lipsync) yna - gwefreiddiol!
Nid Dragrace cyffredin mohono ond...Bra Wars?
Heblaw am y sgript ofnadwy ac outfit...gwahanol Ru, mae yna lawer i'w ddathlu am y bennod yma. O sesiwn gastio Kitty i Yolo Vanity! Ond mae Mari a Meilir yn meddwl fod llaw gynhyrchu yn parhau i wyro ein barn am y cwîns. Ond am ffordd i orffen pennod efo lipsync for your life a hanner. Pwy sydd ddim isho 'chydig o deathdrops ac ambell split?
Weithiau ni'n cytuno a weithiau ni ddim
Mi fyddwch chi'n falch o glywed fod Mari a Meilir wedi mwynhau'r bennod ddiwethaf o Rupaul's Drag Race UK yn ofnadwy. ac wedi maddau i Rupaul am y 'double elimination' yna. Mae'r dasg newydd sbon, ymddangosiad Charity Shop Sue a brwdfrydedd y beirniad gwadd, Alesha Dixon yn gwneud hon yn bennod i'w chofio a'i dathlu (diolch byth). Ond un peth fedrith Mari na Meilir gytuno arno,,,yw Krystal Versace. Be di'ch barn chi?
Diweddglo dadleuol pennod chwech
Dydi Mari na Meilir yn hapus ar ôl un o benodau fwyaf dadleuol y gyfres. Wedi Snatch Game gymharol lwyddiannus, doedd neb yn disgwyl i bethau fynd o chwith fel y gwnaeth hi ar y runway. Doedden ni methu aros i drafod y bennod yma er mwyn rhyddhau ychydig o stêm. Ydych chi'n cytuno efo penderfyniad Ru?
DYNA sut ti'n 'tuckio'?
Ar ôl pennod...ddiddorol arall, mae ganddom ni lawer iawn i'w drafod. Sut hysbyseb fyse ti wedi ei wneud? Pwy yw Miranda Preistley? Oedd gan Mama Ru reswm i fod mor flin? Heb anghofio, mae Meilir yn datgelu dirgelwch y 'tuck' i Mari, unwaith ac am byth. Not for the faint hearted.
Pa Spice wyt ti?
Roedd y bennod ddiweddaraf o Rupaul's Drag Race yn llawn nostalgia o oes aur y grwpiau pop. Fe lwyddodd un grwp o cwins i serennu, ond gafodd y lleill dipyn o 'tragedy' ar y llwyfan... Sori am y jôc, odd rhaid i ni! Heb anghofio, y categori runway gorau eto sef 'A Night of a Thousand Spice Girls'. Felly ewch i wisgo'ch platfforms, popper tracksuits a'ch Walkman's a mwynhewch y bennod yma o Cwins.
Gwnïo, gwersylla a gigyls.
Fel ddywedodd Mari, mae'r sialens wnïo yn dueddol o ddatgelu pa cwins sydd efo doniau creadigol a pha rai sydd ddim, a dyna'n union ddigwyddodd. Tylluan mewn top hat, cwningen arswydus a barcud bob lliw... Pennod anhygoel arall o Drag Race!
Beth sy'n digwydd?
Roedden ni angen cwsg a phaned gryf i ddadebru ar ôl gwylio'r bennod ddiweddaraf o Rupaul's Drag Race UK. Cymaint i'w drafod, cymaint o ddryswch a lot fawr o drag queens. Barod? Ffwrdd â ni!
Ar eich marciau, barod, EWCH!
Wel, am bennod anferth i ddechrau'r gyfres! Dau gategori ar y 'runway' a dau lipsync. Mae ganddom ni ddigon i'w ddweud am y cwîns newydd yn y bennod (ychydig hirach na'r arfer) yma. Tybed ydych chi'n cytuno efo ni?
Yn y dechreuad...
Croeso i bennod gyntaf ein podlediad newydd ni! Bob wythnos, mi fyddwn ni'n trafod a mwydro am bob dim i'w wneud â'r gyfres fyd-enwog, 'Rupaul's Drag Race'. A lle gwell i ddechrau na gyda'n argraffiadau cyntaf o 'line-up' brenhinesau newydd cyfres 3 o 'Rupaul's Drag Race UK'?